1. Empire Complex sy’n rhoi’r cerdyn hwn ac mae’n parhau’n eiddo i’r Cwmni. Mae’r defnydd o’r cerdyn yn gyfystyr â derbyn y telerau hyn a does dim ynddynt sy’n effeithio ar eich hawliau cyfreithiol.

2. Gellir defnyddio’r cerdyn hwn yn yr Empire Complex yng Nghaergybi neu ar-lein yn www.holyheadcinema.co.uk i dalu am docynnau. Gellir ei ddefnyddio ar y safle i dalu am fwyd, diod a mwyafrif y nwyddau masnachol. Ni ellir ei ddefnyddio i brynu dros y ffôn. Mae pob pryniant a wneir gyda’r cerdyn hwn yn ddibynnol ar argaeledd, cyfyngiadau oedran arferol ac unrhyw delerau perthnasol eraill.

3. Nid oes gwerth i’r cerdyn tan y defnyddir ef. Y gwerth mwyaf y gellir ei roi ar y cerdyn hwn yw £50. Ni allwch ail-lwytho’r cerdyn neu ychwanegu gwerth ato.

4. Gellir defnyddio’r gwerth ar y cerdyn os yw cyfanswm y trafodiad yn uwch na balans y cerdyn, o dalu’r gwahaniaeth. Os nad ydych yn defnyddio holl werth y cerdyn hwn mewn trafodiad, gadewir y balans sy’n weddill ar y cerdyn. Ni roddir newid. Os caiff trafodiad gyda’r cerdyn hwn ei ganslo neu ei wrthdroi yn ddiweddarach, rhoddir gwerth sy’n ddyledus yn ôl ar y cerdyn hwn.

5. Cadwch y cerdyn yn ddiogel a’i drin fel pe bai’n arian os gwelwch yn dda. Nid yw Empire Complex yn gyfrifol os caiff y cerdyn ei golli, ei ddwyn, ei ddinistrio neu ei ddefnyddio heb ganiatâd. Mae Empire Complex yn cadw’r hawl i ganslo’r cerdyn hwn os yw’n rhesymol amau twyll neu gam-drin. Ni dderbynnir cardiau wedi’u difrodi, eu newid neu eu canslo.

6. Nid cerdyn credyd, debyd, talu neu gerdyn gwarantu siec yw’r cerdyn hwn. Ni ellir cyfnewid y cerdyn am arian parod neu dalebau/gardiau rodd eraill.

7. Mae’r cerdyn hwn at eich defnydd personol anfasnachol chi. Ni allwch ail-werthu’r cerdyn hwn.

8. Rhaid i’r holl hawlfreintiau, nodau masnachol a hawliau eiddo deallusol eraill ynglŷn â’r cerdyn hwn barhau’n eiddo i Empire Complex bob amser.

9. Mae Empire Complex yn cadw’r hawl i newid y telerau hyn o bryd i’w gilydd, er mwyn sicrhau eu bod yn cydymffurfio â’r gyfraith neu reoliad, am resymau diogelwch neu i wneud newidiadau anfaterol, a bydd y gwelliant yn effeithiol pan gaiff ei bostio ar-lein yn www.holyheadcinema.co.uk Gallwn hefyd newid y telerau hyn i amlygu newidiadau materol i’r cynllun cerdyn rhodd, ond byddwn yn postio unrhyw newidiadau materol i’r telerau hyn ar-lein yn
www.holyheadcinema.co.uk o leiaf 30 diwrnod ymlaen llaw. Os ydych yn anfodlon gyda’r newidiadau materol hyn, gallwch derfynu’ch cytundeb gyda ni am ddefnyddio’r cerdyn rhodd dan y Telerau hyn, ddim hwyrach na 90 diwrnod wedi i’r newid materol ddod i rym.

10. Mae Empire Complex yn cadw’r hawl i atal neu derfynu’r cynllun cerdyn rhodd am resymau cyfreithiol, diogelwch neu reoleiddio a rhoddir rhybudd rhesymol lle bo hynny’n bosibl.
Rhoddir hysbysiad o hyn ar-lein yn www.holyheadcinema.co.uk.

Holyhead Town Council